Icon  Description automatically generated

 

DYFODOL I’R IAITH

 

SYLWADAU AR GYFER:

 

Y PWYLLGOR LLYWODRAETH LEOL A THAI YN DILYN Y CYFARFOD A GYNHAILWYD AR 09/02/22

Ebrill 2022

 

Cyswllt:

Ruth Richards, Prif Weithredwr

 

Dyfodol i’r Iaith

 

Mae Dyfodol i’r Iaith yn fudiad amhleidiol sy’n gweithredu er lles yr iaith Gymraeg. Nod y mudiad yw dylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg ym mhob maes polisi. Bydd yn gweithredu er budd Cymru a’i phobl, gan ennill cefnogaeth a pharch i’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn fater byw ar yr agenda gwleidyddol.

 

 

Diolchwn i Gadeirydd y Pwyllgor am y cyfle hwn i gynnig sylwadau ychwanegol i’r drafodaeth allweddol ar ail gartrefi a llety gwyliau.

 

 

Pa fylchau sydd yn y data / gwybodaeth o ran diffinio ardaloedd lle ceir sensitifrwydd ieithyddol a rôl y Comisiwn arfaethedig wrth ddatblygu tystiolaeth empirig i gefnogi ymyriadau polisi?

Credwn ei bod yn hanfodol fod awdurdodau lleol yn casglu a monitro data’n ymwneud â gwerthiant a chyfraddau prisiau tai fesul cymuned a’u bod yn rhannu’r wybodaeth gyda’r Comisiwn. Dyma’r unig ffordd o gadw llygaid ar raddfa’r broblem ar lawr gwlad. Daw hefyd yn fodd i sicrhau nad yw’r ymyriadau’n arwain at drosglwyddo’r broblem o un gymuned i un arall.

Nodwn yn ogystal fod Dyfodol, mewn materion tai a chynllunio, yn argymell ystyried unrhyw gymuned gyda mwy na 25% o siaradwyr Cymraeg fel bod yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol.

 

Sut mae’r pandemig a Brexit wedi effeithio ar y ddadl ynghylch ail gartrefi a pha mor real yw pwysau gwrth drefoli pan fo pobl yn symud o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig?

Sbardunodd y pandemig ruthr i brynu ail gartrefi a thai ar osod yng Nghymru. Ategwyd yr hyn y mae mudiadau iaith wedi bod yn ei ddatgan ers degawdau: sef, bod y galw hwn yn prisio pobl leol o’r farchnad dai, yn cynrychioli bygythiad uniongyrchol i’r Gymraeg fel iaith gymunedol, heb sôn am fod yn adlewyrchiad truenus o’r anghyfartaledd cyfoeth sy’n tanseilio cydlyniad cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol. Unwaith eto, byddwn yn galw ar y Llywodraeth fynd i’r afael â’r broblem ar fyrder.

O safbwynt y niweidiau tebygol a ddaw yn sgil Brexit, ac yn gysylltiedig â’r argyfwng tai, byddwn yn galw am sylw brys i economi’r gogledd-orllewin a phob ardal arall sydd wedi eu heffeithio gan y twf mewn ail gartrefi. Tra’n grymuso Arfor i ddod yn gyfrwng i adnabod yr anghenion mewn cydweithrediad agos â’r Comisiwn mae angen bod yn ymwybodol o ardaloedd tu hwnt i diriogaeth Arfor, megis Sir Benfro, sydd yn dioddef o effaith ail gartrefi a cholli pobl ifanc. O gymryd amaeth fel esiampl, mae angen gweithio gyda ffermwyr a chymunedau gwledig i sicrhau eu bod yn cael y budd mwyaf o raglenni hanfodol i warchod yr hinsawdd. Y sawl sy’n byw ar y tir a chynnal ei chymunedau, ac nid cwmnïau mawrion sydd am wyrdd-olchi eu ôl-troed carbon, ddylai gael budd o blannu coedwigoedd a manteisio ar werthiant y pren a gynhyrchir.

Gyda chyfuniad o ddulliau gweithio amgen, y galw am wyliau, ac anghyfartaledd cyflogaeth, cynyddodd y nifer o bobl sydd am brynu ail gartrefi yng Nghymru ar garlam ac i raddau sy’n anghynaladwy o safbwynt gwarchod bywyd cymunedol a’r Gymraeg. Ond, rhaid ystyried bod newidiadau mewn patrymau gwaith hefyd yn cynnig cyfle, gyda chynllunio cynhwysfawr, i wneud yr ardaloedd hyn yn hygyrch ac atyniadol i’r bobl ifanc hynny a orfodwyd i adael eu cymunedau yn sgil prisiau uchel a diffyg cyfleoedd.

 

 

Beth y gall cymunedau ei ddysgu o’r dulliau a ddefnyddir mewn rhannau eraill o Gymru a chymunedau y tu allan i Gymru y mae’r mater hwn yn effeithio arnynt?

Mae Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg y Llywodraeth yn rhoi pwyslais cwbl ddilys ar rymuso cymunedau yn wyneb yr holl heriau. Cytunwn yn llwyr â’r egwyddor hon, ond byddwn yn datgan yr un pryd fod angen cymorth hir dymor gan y Llywodraeth i fagu’r fath wytnwch ac i gydlynu’r broses o rannu profiadau ac ymarfer da.

Ceir, wrth gwrs, esiamplau o gymunedau’n meddiannu a rheoli eu hadnoddau yn unol â’u hanghenion lleol. Mae’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn nodi nifer o’r rhain a modelau i’w efelychu.

Manteisiwn ar y cyfle i dynnu sylw’r Pwyllgor at argymhellion Dyfodol I’r Iaith ynglŷn â throi tai gwyliau’n ased cymunedol (gweler yr atodiad).

Yn ogystal â chymorth ymarferol ac ariannol gan y Llywodraeth, byddwn yn rhagweld y bydd y broses o rannu gwybodaeth ac arferion yn rhan allweddol o waith y Comisiwn.

Mae hi’n werth casglu gwybodaeth fanwl o ymdrechion yn Ardal y Llynnoedd, Lloegr, Cernyw, a’r Swistir am ddulliau o ddarparu cartrefi i bobl leol.